Geiriad y ddeiseb
‘Gofynnwn i Lywodraeth Cynulliad Cymru:
1. Gynghori Ymddiriedolaeth GIG Caerdydd a’r Fro i:
· ddarparu digon o le parcio ar y safle ar gyfer staff ac ymwelwyr trwy gael ardaloedd addas ar gyfer parcio i’r ysbyty ar y safle ac ar dir fel yr ardal ddiffaith i’r gogledd o’r rhandiroedd gyferbyn ag Ysbyty’r Mynydd Bychan ar yr ochr arall i Eastern Avenue,
· datganoli rhai o’r gwasanaethau sydd eisoes ar safle’r Mynydd Bychan a
· pheidio â gwerthu tir ysbytai yng Nghaerdydd a’r ardal gyfagos ar gyfer tai.
2. Argymell bod Cyngor Sir Caerdydd yn:
· gwrthod caniatâd cynllunio ar gyfer datblygu pellach ar safle Ysbyty’r Mynydd Bychan oni bai bod uned yn cael ei symud o’r safle, a gaiff yr un effaith ar draffig
· peidio â chefnogi datblygiadau amlfeddiannaeth yn yr ardal a
· chyflwyno system parcio am gyfnod cyfyngedig yn y strydoedd sydd o fewn pellter cerdded i Ysbyty’r Mynydd Bychan.
3. Ystyried o fewn y Cynulliad, cyflwyno system a fyddai’n caniatáu i grwpiau lleol apelio i’r Cynulliad pan fydd y cyngor yn rhoi caniatâd cynllunio ar gyfer datblygiad y mae’r trigolion yn ystyried a fydd yn gwaethygu’r broblem barcio yn yr ardal.
Linc i’r ddeiseb: http://www.senedd.cynulliadcymru.org/mgIssueHistoryHome.aspx?IId=862
Cynigwyd gan: Y Cynghorydd Ron Page
Nifer y llofnodion:500+
Ystyriwyd eisoes gan y Pwyllgor ar: 22 Mai, 9 Gorffenaf, 2 Hydref, 6 Tachwedd 2008, 13 Ionawr, 27 Ionawr, 17 Mawrth, 8 Rhagfyr 2009, 23 Mawrth, 13 Gorffenaf, 16 Tachwedd 2010, 11 Ionawr, 25 Ionawr, 8 Chwefror, 1 Mawrth, 29 Mawrth 21 Mehefin 2011.
Y wybodaeth ddiweddaraf:Cafwyd gohebiaeth gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol.